Y Sgrin
Neoclassicism and the weatherMary Vetisse
13 Awst - 31 Awst 2012
Gwaith newydd yw ‘Neoclassicism and the weather’ sydd yn gwau’n chwareus ffilm darganfedig gyda fideo wedi’i saethu gan yr artist. Ymgorffora’r gwaith, ynghyd â pethau eraill, y sianel tywydd, colofnau ffibr gwydrog a’r artist yn ceisio dawnsio, wedi’i glymu at ei gilydd gan naratif ar droad sy’n cynnwys atgofion plentyn a digwyddiadau bywyd go iawn gyda gwybodaeth di-nod ac efallai’n anghywir. Mae’r dadleoliad parhaol a’r ail-fuddsoddiad yn y ddelfryd clasurol o bensaernїaeth a syniadau yn cael eu troi beniwaered gan cwestiynu awdurdod ffaith a phrofiad bywyd.
Artist wedi’i selio yn Llundain yw Mary Vetisse, yn gweithio’n benodol â fideo gydag ymarfer sydd hefyd yn cynnwys gwaith sefydlog a perfformiad. Mae ei gwaith yn trafod strwythurau a naratifau mewn ffordd teimladwy a digri, gan gyfuno hanesynnau personol gydag ymchwil cudd. Graddiodd â BA yn Arlunio o Goleg Celf Camberwell yn 2011 ac roedd yn gyfrannogwr 2012 yn Ysgol Cerflunwaith a Pheintio, Maine, USA. Ennillydd gwobr myfyriwr yng Nghystadleuaeth Agoriadol 2012 Oriel Davies, Frenewydd, Cymru.