Y Sgrin

  • Header image

Mohamed HassanY Sgrin

24 Medi - 05 Tachwedd 2022

Mae Mohamed Hassan yn artist sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Benfro, gorllewin Cymru. Graddiodd gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffotograffiaeth o Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 2016. 

Dechreuodd taith Mohamed gyda ffotograffiaeth pan oedd yn ifanc. Roedd ei dad yn ffotograffydd proffesiynol, ac roedd Mohamed yn aml yn gwmni iddo yn ei stiwdios yn Alexandria, yr Aifft ac mewn priodasau a phartis. Wrth iddo fynd yn hŷn, fe helpodd ei dad i recordio’r digwyddiadau hyn ar ffilm a chamera fideo, a oedd yn hyfforddiant ac yn sylfaen wych i Mohamed ar gyfer y dyfodol.

Mae byw ac astudio yng Nghymru wedi bod yn ganolog i’w daith fel artist. Pan gyrhaeddodd Cymru am y tro cyntaf, roedd yn teimlo fel pe bai mewn breuddwyd, ac wrth i Mohamed ddarganfod ac archwilio mwy o Gymru, cafodd ysbrydoliaeth o bob math. Boed hynny’n pacio ei gamera a cherdded Bannau Sir Gâr neu gerdded yn hamddenol ar draeth yn Sir Benfro, mae’n teimlo’n lwcus i gael profi a thynnu lluniau o’r tirweddau anhygoel hyn.

 

Delwedd: Portread gan Mohamed Hassan

<< Yn ôl tudalen