Y Sgrin
Maritime Adventures | Toys in the AtticJohn Paul Evans
26 Mawrth - 14 Mai 2022
Maritime Adventures
“Pa antur a gawn ni heddiw Peter?”…”Gadewch i ni gael antur ar y môr J.P”
Yn blentyn, byddwn yn cael fy nghyfareddu gan y cymeriad animeiddio ‘Mr Benn’. Bonheddwr mewn siwt oedd e a fyddai’n mynd i mewn i siop gwisgoedd hud a lledrith gan gael anturiaethau yn y wisg o’i ddewis. O edrych yn ôl fel oedolyn, roedd hyn i’w weld yn gysylltiedig ag isddiwylliant hoyw lle y byddai dynion yn aml yn gwisgo er mwyn gwireddu eu ffantasïau.
Mae gan rôl y morwr arwyddocâd arbennig ar hyd y canrifoedd o ran atyniadau rhwng pobl o’r un rhyw, o straeon Herman Melville drwodd i Jean Genet – mae grym aruthrol i ddirgelion y teithiwr ar y cefnforoedd.
Mae gwisgo a chwarae rôl yn gadael i ni grwydro bydoedd roedden ni’n meddwl ein bod wedi’u gadael y tu ôl i ni yn ein plentyndod, amser pryd roedd unrhyw beth yn teimlo’n bosibl, amser o gogio a smalio.
Darn o destun gan John Paul Evans
Toys in the Attic
Cyfres o ffotograffau yw Toys in the attic lle mae fy ngŵr, Peter, a fi’n perfformio syniadau am gartre, y cof, dieithriwch, perthyn ac arwahanrwydd.
Defnyddir gofod y llofft fel trosiad am yr anymwybod a’r broses gymdeithasoli gynnar rydyn ni’n dod ar ei thraws mewn diwylliant patriarchaidd.
Awgrymodd Baudelaire fod gallu’r plentyn i borthi’i ddychymyg yn dystiolaeth o deimladrwydd artistig: “Y tegan yw cyflwyniad cyntaf y plentyn i gelfyddyd, neu’n hytrach ei enghraifft ddiriaethol gyntaf o gelfyddyd a phan fydd aeddfedrwydd yn ymyrryd, ni fydd yr enghraifft brinnaf yn bodloni’i feddwl â’r un brwdfrydedd na’r un argyhoeddiad tanbaid.”1
1. Cyfieithiad o The Philosophy of Toys – Charles Baudelaire
Darn byr o ddatganiad Toys in the Attic gan John Paul Evans.