Y Sgrin
Leah MillinshipGwneuthurwr Mewn Ffocws
23 Chwefror - 03 Ebrill 2016
Cyflwyna Leah Millinship, ffotograffydd Celf Gain, y corff o waith Le Bambole: Through the Eyes of Dolls. Archwilia’r casgliad diddorol yma gysyniadau o deulu – hunaniaeth a pherthyn trwy gasgliad gwerthfawr o ddoliau od ac eclectig, wedi’u hachub a’u hadfer gan Alice Torresani-Visintainer (Nonna, Mamgu yr artist). Wedi’u ‘adfywio’ trwy’r broses sganio, mae’r delweddau manylgar a theimledig yma yn creu set amrywiol o bortreadau gwefreiddiol, gan annog archwiliad i’r berthynas gyda doliau a’u hwynebau anfyw.
Ffotograffydd yw Leah Millinship sydd yn archwilio cysyniadau teulu a hunanieath trwy naratif agos y gwrthrych casgliadol.