Y Sgrin

  • Header image

Laurentina MiksysGwobr Jane Phillips

02 Hydref - 13 Tachwedd 2021

Mae’r portreadau gan y ffotograffydd celfyddyd gain Laurentina Miksiene wedi cael eu disgrifio fel rhai goludog, diamser a llawn mynegiant emosiynol. Pan fydd ganddyn nhw enaid, mae delweddau’n gadael i’n sensitifrwydd ymgysylltu â’r testun a chreu empathi gyda’r hyn a welwn. Mae Laurentina’n credu bod yr ymdeimlad yma â chysylltiad yn newid ein meddylfryd. Fel hyn, mae ei ffotograffau’n edrych ar wahanol lefelau o realiti: realiti beth neu bwy a ddisgrifir gan y ddelwedd a realiti profiad a theimlo – boed o eiddo’r testun, y gwyliwr neu hi ei hun.  Dyma beth rydyn ni’n ei ddwyn at y ddelwedd ac ar ôl y trawsnewid, mynd ag ef ymaith gyda ni.

Fe’i ganed a’i magu yn Lithwania gan etifeddu ymdeimlad â’r byd gan ei thaid a oedd yn ffotograffydd amatur. Ei greddf sy’n ei helpu i ddewis yr ennyd gywir i wasgu botwm y camera. Mae ffotograffiaeth yn creu’r ennyd honno yn y man a’r lle, gan ei throsi i’r gorffennol. Mae rhyw delynegiaeth a theimladrwydd arbennig i ffotograffiaeth Laurentina, sy’n syllu ar ddyn a bywyd yn optimistaidd.

 


Cafodd y wobr ei greu yn 2011 er cof am Jane Phillips (1957 – 2011), cyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission. Mae’r wobr yn gymynrodd i angerdd Jane am feithrin talent,  yn gweithio gydag unigolion ar bob lefel - gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ag artistiaid ar ddechrau eu taith. Cyfleoedd sydd wedi eu cryfhau trwy gydweithrediad agos gyda thim Oriel Mission, Coleg Celf Abertawe, PCYDDS ag oriel elysium.

Rhan o arddangosfa sydd yn edrych ar lwyddiant a champau deng mlynedd o Wobr Jane Phillips.

Am fwy o wybodaeth am y wobr, cliciwch yma

<< Yn ôl tudalen