Y Sgrin
Lauren OrmeY Sgrin
05 Awst - 23 Medi 2023
Beth sy’n wir a beth sydd ddim – a beth sydd rhywle yn y canol?
Mae gwaith Lauren yn mapio’r darnau llwyd hynny rhwng realiti a ffantasi, gan chwarae gyda syniadau am gof, myth, gwisgoedd, contractau cymdeithasol, gweledigaethau apocalyptig a chyflyrau seicolegol.
Mae elfennau o’n dychymyg ar y cyd – biwrocratiaeth, cyfalafiaeth, patriarchaeth – yn cael effaith go iawn ar ein hamgylchedd ffisegol a’n profiad bywyd. Mae ei gwaith yn trin ac yn trafod y tensiwn rhwng y lluniadau haniaethol hyn a gwirioneddau ffenomenolegol y byd naturiol a chysylltiad dynol. Mae ei defnydd o ddeunyddiau’n mynd ar hyd llinell gyfochrog rhwng y ffisegol a’r digidol, gan arbrofi’n aml â’r cyfryngau a’r technegau sy’n ymddangos yn gyffyrddadwy hyd yn oed pan fyddant yn cael eu creu a’u gweld drwy’r sgrin yn unig.
Delwedd: Darn o animeiddiad Creepy Pasta Salad, 2019
Cliciwch yma am y restr gwaith a chlodrestr.