Y Sgrin
Laura Reeves | Jane Phillips Awardy Lle [...]
11 Mawrth - 06 Ebrill 2014
Mae Gwobr Jane Phillips wedi rhoi cymorth amhrisiadwy i mi ar gam cynnar fy ngyrfa gydag ysgoloriaeth, stiwdio a mentora. Darparwyd amgylchedd pwrpasol i mi archwilio fy ymarfer fel un cyfan yn stiwdio Elysium yn Stryd Mansel a gwneud cysylltiadau rhwng syniadau yng ngwaith presennol a chynt mewn gwagle sydd yn ymarferol i’r pwrpas. Mae’r cyfnod preswyl wedi galluogi amser i ymchwilio’n drylwyr a llawn ffocws.
Mae ymweliadau stiwdio wedi cynnwys cyfarwyddwr Oriel Mission Amanda Roderick, yr artist preswyl cynt Sam Hasler a’r ymchwilydd yn Ystafell Ddarllen Arnolfini Bryste, Phil Owen. O sgrsiau ynglŷn a ‘beth wyf fi yn ei wneud yn y stiwdio?’ i argymhellion llyfrau, ysgrifennu traethodau, trefnu blodau a gerddi dychmygol. Cynorthwyodd yr ysgoloriaeth ymweliadau stiwdio a chyfle i brynu deunyddiau gan gynnwys eitemau bach fel ffilm a phrosesu i eitemau mwy fel taflunydd, Dictaffon ac iPad.
Dechreuodd y preswyl gyda llun o dŷ tegeirian John Dillwyn Llewelyn. Adeiladodd Dillwyn y tŷ tegeirian cyntaf ym Mhrydain yma yn Abertawe. Ailadroddodd amodau dryswigoedd De Affrig gan gynnwys rhaeadr cynnes. Mae yna ddarluniau a darnau ysgrifenedig ar gael ohono ond dim ond un llun o’r tŷ cynnes yma. Dengys y llun gasgliad o degeirianau ar sielff neu fwrdd gyda nenfwd ar ongl a ffenest olau. Nid dogfen syml o enghreifftiau ydyw ond esiampl o gasgliad brwdfrydydd; hwn dynnodd fy llygad. Ganed a bu fyw Llewelyn yn Abertawe ac roedd yn un o’r ffotograffwyr arloesol cynnar, yn archwilio’r holl brosesau a oedd ar gael ar y pryd. Gwnaeth Llewelyn ffotograffau yn aml gyda’i deulu, yn enwedig ei ferch.
Aeth y gwaith a’r ymchwil i degeirianau â fi ar daith trwy tai gwydr, archfarchnadoedd, ystafelloedd ffrynt a chyfarfodydd gyda brwdfradorion tegeirianau. Taith ydoedd i’r ffotograffig, hanesyddol a phlanhigol. Mae’r preswyl wedi gadael i mi ddilyn ysgrifennu fel ffurf pwysig o weithio ac i sylweddoli pa mor bwysig yw’r berthynas rhyngof fi a fy nheulu sydd yn ysbrydoli fy ngwaith.
Am | Laura Reeves
Tyfodd Laura Reeves i fyny yn y De Gorllewin a symudodd i Gaerdydd i astudio Celf Gain, Cerflunwaith yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Ennillodd Laura yr Ysgolooriaeth Artist Ifanc yn Eisteddfod 2012. Yn fuan ar ôl hynny cafodd ei sioe unigol cyntaf yn Motorcade/FlashParade, Bryste a’I dewis am Mostyn Agored 18.
Mae Laura wedi dechrau arddangos yn genedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys Canolfan Gelf Chapter, Ffair Gelf Llundain, Sefydliad Nomas ac Aid and Abet. Gwahoddwyd Laura I fod yr artist preswyl cyntaf yn llyfrgell g39 yng Nghaerdydd. Mae’r cyhoeddiad How to Start a Collection a gwnaethpwyd fel canlyniad i’r preswyl i’w gael yn g39, Oriel Mission, Siop Lyfr Llyfr Artist a Llyfrau Motto. Cyflwynodd Reeves lyfr yn Tertulia yn ddiweddar, digwyddiad salon i gelf a llenyddiaeth yn Spike Island, Bryste.
I ddod yn 2014 fydd preswyl chwech wythnos yn Oriel Standpoint yn Llundain a sioe unigol ym MOSTYN fel rhan o’r raglen ‘Uprisings’.
Delweddau:
Hunan-bortread gyda Tegeirian (delwedd ymchwil) 2013, sleid 35mm
Tegeirian Bag Cario (delwedd ymchwil) 2013, llun iPhone
Byd Tegeirianau (delwedd ymchwil) 2013, sleid 35mm darganfedig
Delwedd panoramig o'r stiwdio yn Stryd Mansel
Ffilm Cartref y Briodas Eidalaidd, 2013, Perfformiad, tua 15 munud o hyd
Sut I Ddechrau Casgilad, 2013, cyhoeddiad 26 tudalen