Y Sgrin
Katharine Fryy lle [...]
12 Ionawr - 21 Chwefror 2016
Cyflwyna Katharine Fry gwaith fideo newydd sydd yn datguddio nifer o bersbectifau gwahanol ar amser a phrofiad byw.
Gweithia K gyda’i lluosog i geisio dianc amser. Mae’n cwympo a llithro ac mae’n troi a chuddio. Ceisia gwthio’i ffordd trwy atgofion a thrawma, i ddarganfod llinell dianc o ganol amser, dim ond i’w chaethiwo gan amser. Yn rhwystredig oherwydd ei methiant, gofynna K -.- adeiladu peiriant amser.
I fodloni K rhaid i -.- ddeall fel mae amser yn gweithio. Cymer ddigwyddiad sengl, dymchwel Tŵr Glencairn, a manipiwleiddio’i gysylltiad gydag amser mewn nifer o arbrofion. Dengys arbrawf tri chysylltiad amser heb fod dynol. Nid oes trefniant munudau dros amser, dim ffordd i ganfod achos o effaith. Mae popeth yn digwydd.
I weld y gwaith, cliciwch yma