Y Sgrin

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Ingrid MurphyY Lle [...]

07 Ionawr - 16 Chwefror 2014

Yr egni rhwng sgiliau traddodiadol a thechnolegau newydd yw ymchwil ag ymarfer Ingrid. Archwilia sut gall ymroddiad ac ideoleg ddylanwadu ar y ffyrdd rydym ni yn gweld, cynhyrchu a deall y gwrthrych crefft. Yn 2010, derbynniodd Gwobr Cymru Creadigol am ei hymarfer personol.

Gweithia Ingrid gydag artiffactau serameg ac mae’n defnyddio realiti estynedig, sganio a printio 3D yn ogystal a prosesu serameg traddodiadol i hacio’r artiffactau yn gorfforol a digidol, mae gwaith Ingrid yn ceisio animeiddio’r difywyd, ac i ddarparu profiad gwahanol o’r cyfarwydd i’r gwyliwr ac i wneud hyn mae’n ysbeilio hanes serameg i greu naratif cyfoes newydd a diddorol, sydd hefyd yn siarad am foesau crefft traddodiadol.

Am | Ingrid Murphy

Ganed Ingrid yn Swydd Corc, Iwerddon ac mae wedi byw a gweithio ym Mhrydain ers 1990.

Artist serameg ac addysgwr yw Ingrid sydd yn arddangos ei gwaith a’i hargraffu’n rhyngwladol. Ers dros 20 mlynedd mae Ingrid wedi gweithio yn addysg Celf a Dylunio, mae’n angerddol am ddysgu ac mae wedi siarad yn genedlaethol a rhyngwladol yn nifer o gyfarfodydd ar ymarfer dyfeisiol yn addysg a dysgu.

Yn bennaeth Serameg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd o 2007 – 2013, un o adrannau serameg mwyaf sefydledig Ewrop. O ddylanwad ei  hymchwil personol yn 2011 datblygodd Ingrid gwricwlwm gwneud aml-ddisgyblaethol, sydd yn archwilio’r cyfuniad o sgiliau traddodiadol a thechnoleg newydd ac yn bresennol arweinia’r pwnc Artist, Dylunydd, Gwneuthurwr o fewn y brifysgol. Fe gwobwywyd Ingrid gyda Cymrydoriaeth Addysg am Ddatblygiad Newydd.

Yn ogystal a byw a gweithio ym Mhrydain, mae Ingrid yn gweithio a dysgu yn Stiwdio La Perdrix,  Dordogne, Ffrainc. Ers 2007 mae Ingrid a’i gŵr Johnny wedi datblygu La Perdrix fel hwb creadigol.  Datblygodd y ddau gyfres o weithdai arbrofol, preswyliau ac arddangosfeydd I gefnogi ac ehangu creadigrwydd artistig i’r gymuned leol ag artistiaid rhyngwladol.

<< Yn ôl tudalen