Y Sgrin

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Inger RichenbergY Lle [...]

16 Ebrill - 28 Ebrill 2013

Artist lens Norwyaidd ydw i, yn astudio celf ffotograffiol yn Metroplitan Abertawe. Mae fy ngwaith wedi’i selio ar gwestiynau  o hunaniaeth, perthyn diwylliannol a’r berthynas interactif rhwng y gorffennol a’r presennol. Wrth ddefnyddio hunan-bortread fel offeryn, fy nod yw i ddysgu am fy hun a chefndir fy nheulu trwy ffotograffiaeth.

 

Symudais i Gymru o Norwy yn 2010 i astudio yn Metropolitan Abertawe. Hyd at hynny, edrchais ar fy niwylliant o safbwynt mewnol, gwnaeth hyn i mi ei gymryd yn ganiataol. O cyfarfod â diwylliant newydd, daeth cwestiynau fy hunaniaeth i gymharu â chenedlaetholdeb, diwylliant, teulu a hanes teulu llawer mwy pwysig. Gwnaeth y pellter o’r cyfarwydd fy arwain yn ôl i Norwy, i geisio ateb y cwestiynau gwnes  i erioed feddwl byddai yn eu gofyn.

 

Fel rhan o astudiaeth fy niwylliant a fy nheulu, creais  gyfres o waith wedi’i gysylltu’n agos gyda dyddiadur fy nhadcu “I wish you could be here to see me now”. Gwnes i erioed gwrdd fy nhadcu a’r unig beth roeddwn yn ei wybod amdano oedd yr hwn roedd fy nhad yn ei ddweud amdano. Mae darllen ei ddyddiadur wedi galluogi  i mi ddysgu amdano ef a’i fywyd trwy ei eiriau a’i lais personol ef. Gyda teulu gwasgaredig bach mae’n bwysig i mi ddysgu am fy hun trwy astudio aelodau’r teulu sydd yn gysylltiedig i mi o’r gorffennol.

 

Un agwedd o’r astudiaeth parhaol yma o’r dyddiadur yw y ffaith bod y llefydd a’r digwyddiadau sydd wedi’u disgrifio yn rhan o gymuned, un sydd ar fin diflannu. Wrth adlewyrchu ffotograffau o’r gorffennol i leoliadau presennol dymunaf godi atgofion o’r bywydau a oedd yn bod. Wrth ddefnyddio hunan-bortread mae’r gwaith hefyd yn archwilio fy mhethynas gyda’r ardal a’r cysylltiad personol gyda fy cyndadau.

 

Wrth ymweld â’r llefydd yma o’r dyddiadur gwelaf bod llawer o’r lleoliadau yma yn perthyn i’r gorffennol. Paradocs ydyw bod nifer o’r cymunedau bach ar gyrion Norwy aSwedenyn diflannu, eu bod methu ymdopi gyda datblygiad cyflym y byd postmodern yma. Credaf ei fod yn bwysig i ni stopio am funud ac i beidio anghofio pwy ac o ble rydym ni yn dod. Heb y gorffennol, nid oes y presennol. 

<< Yn ôl tudalen