Y Sgrin

  • Header image

How to Pickle an AdderLiam Webb

29 Mehefin - 06 Awst 2022

Yn 1983, pan gododd pysgotwr chwilfrydig garreg a’i thaflu i fyny’r traeth serth yn Cell Howell, doedd ganddo ddim syniad beth fyddai’n cael ei ddarganfod o dan ei draed (yn llythrennol) gan arwain at gynnwrf byd-eang ar draws tri chyfandir.

Mae How to Pickle an Adder yn adrodd hanes ymgyrch Heddlu Dyfed-Powys yn 1983 o dan yr enw cod “Seal Bay”. Dyma stori cynllwyn smyglo cyffuriau anferth - un o’r mwyaf astrus ac uchelgeisiol a welwyd erioed ym Mhrydain. Roedd y smyglwyr wedi adeiladu ogof o wydr ffibr yn orlawn o dechnoleg flaengar mewn bae anghysbell yng ngogledd Sir Benfro. Gan ddilyn yr hen lwybrau smyglo a ddefnyddiwyd ganrifoedd ynghynt, bwriad y smyglwyr oedd dod â 3 tunnell o ganabis yr wythnos i mewn i’r DU. Ond doedden nhw heb sylweddoli bod y trigolion lleol yn hoffi cadw golwg ar bawb a phopeth oedd yn digwydd yn eu milltir sgwâr a dyna wnaeth ddifetha’r cynlluniau yn y pen draw.

Mae Liam Webb (ganed 1996, Caerfyrddin) yn ffotograffydd dogfennol o Gymru. Mae ganddo ddiddordeb ysol mewn hanes llafar a llên gwerin cyfoes ac mae hynny wrth galon ei waith. Mae Webb yn archwilio’r themâu hyn drwy gyfuno’r effemera archifol mewn casgliadau gyda’i luniau ei hun, gan gymysgu technegau dogfennol traddodiadol â ffurfiau mwy cyfoes o gynyrchiolaeth. Mae’n dod â ffaith a ffuglen at ei gilydd gan gynnig naratif newydd ac amgen i’w gynulleidfa. Mae gwaith Webb wedi cael ei gyhoeddi mewn print ac ar-lein gan sefydliadau fel The British Journal of Photography, Der Greif a Loupe. Mae gan Webb radd BA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol o Brifysgol De Cymru (2019) ac ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer ei MA mewn Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.

<< Yn ôl tudalen