Y Sgrin

  • Header image

Gweni Llwydy lle [...]

14 Ionawr - 21 Mawrth 2020

Mae gwaith Gweni Llwyd yn archwilio sut y gall deunyddiau ffisegol a digidol cael ei fewnblannu gydag ystyrion cymdeithasol, synhwyrol a diwylliannol, a sut gall hyn cael ei gyfryngu gan fideo digidol. Wrth ganolbwyntio ar y pob dydd, y synhwyraidd a'r afresymol, mae Gweni yn tynnu oddi wrth gyfarfyddiadau gyda deunydd ar-lein ac all- lein. Wedi'i annog gan atgofion o gyffwrdd a gwead, mae hi'n llywio'r we i gasglu clipiau fideo, synau a GIFiau o archifau ar-lein agored i'w defnyddio gyda fideo, ffotograffau a sain ei hun. Wrth ymdrin â chreu gwaith fideo fel collage, mae hi'n ceisio dosbarthu a churadu arteffactau digidol sy'n ymddangos yn ddigyswllt, sy'n arwain at naratifau arbrofol, haniaethol neu rythmig. 

Graddiodd Gweni Llwyd o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2017 ac mae hi wedi arddangos o gwmpas Ewrop ac ar-lein. Mae ei arddangosfeydd diweddar yn cynnwys V&A Late: Art Schools, Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain, Gripping Wrists, LUX Scotland gyda Tendency Towards, Aberdeen (2018) Sightseers, g39 Caerdydd (2018). Yn 2018 derbyniodd wobr goffa Brian Ross Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ysgoloriaeth Artist Ifanc Yr Eisteddfod Genedlaethol. 

<< Yn ôl tudalen