Y Sgrin
Gwaith Celf sy'n Agos i MiLucy Donald | Elena Prosser | Matthew Walters
01 Medi - 10 Medi 2021
Gwahoddodd Oriel Mission artistiaid llawrydd a oedd yn byw yn ardal Bae Abertawe i wneud fideo byr yn eu hardal leol gan ganolbwyntio ar waith celf lleol o’u dewis. Roedd y darnau yma yn gallu bod yn waith cerflun, celf y tir, murlun, celf gyhoeddus neu unrhyw ddarn o waith y gall y cyhoedd fynd ato.
Yn y ffilm, mae'r artist yn rhannu pam mae’n ei hoffi, sut mae’n ei effeithio a lle gall pobl gael hyd iddo.
Artistiaid Dethol:
Lucy Donald | Elena Prosser | Matthew Walters
Gyda diolch i:
Sophie Lindsey am gynhyrchu’r ffilmiau
Rhan o brosiect parhaol 'Gwaith Celf sy'n Agos i Mi', cafodd yr artistiaid yma eu dewis yn dilyn galwad agored gan Oriel Mission.
Delwedd: Bwrdd gwyddbwyll Coedwig Caswell, Lucy Donald