Y Sgrin

  • Header image

GhostsJames Morris a Maria Tilt

18 Tachwedd - 13 Ionawr 2024

Animeiddiad cydweithredol yw 'Ghosts' a grëwyd gan yr artist Maria Tilt, a'r cyfansoddwr James Morris, ac mae wedi dod yn rhag-hanes i 'Ghosts Have Been Following You'. Dechreuodd 'Ghosts' ei thaith fel paentiad, a ysbrydolodd gân. Ysgogodd hyn yn ei dro wau naratif sydd, yn ein barn ni, yn adrodd stori werthfawr am gysylltiad a cholled y gall pawb uniaethu â hi

 

James Morris:

 

Yn gerddor gydol ei fywyd, dechreuodd James ei yrfa ym myd ffilm fel golygydd cerddoriaeth a chyfansoddwr cynorthwyol i Guy Michelmore ar amrywiaeth o brosiectau animeiddiedig ar gyfer Disney a Marvel. Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth hefyd greu cysylltiadau â llawer o wneuthurwyr ffilm ar gamau cynnar eu gyrfaoedd, gan weithio ar y gerddoriaeth a’r sain. Ffurfiodd gysylltiadau â grŵp o wneuthurwyr ffilm yn Ne Cymru, ac mae wedi bod yn gweithio’n bennaf ym myd ffilmiau Cymreig am y ddegawd ddiwethaf. Yn fwy diweddar, ar ôl dechrau MA mewn Therapi Cerdd, dechreuodd archwilio cerddoriaeth, celf a ffilm mewn ffordd fwy croestoriadol. 

 

Maria Tilt:

 

Bu Maria Tilt, sy’n beintiwr digidol o Gaerdydd, yn artist portreadau yn bennaf yn ystod ei blynyddoedd ffurfiannol. Mae ei diddordeb yn y ffurf ddynol wedi esblygu dros amser gan ddatblygu yn ymarfer sy’n ymwneud llai â realaeth ac uniondeb technegol, ac sy’n canolbwyntio yn hytrach ar fynegi emosiynau a chynrychioli profiadau dynol. Mae Maria yn gweithio’n gyfan gwbl ag Adobe Photoshop gan geisio cipio teimlad paentiad olew traddodiadol drwy ddefnyddio brwshys digidol gweadog a phalet lliw cyfyngedig, ond pwerus; bwriedir ei chyfansoddiadau hynod i ennyn ymdeimlad o arddunedd tra bo’r ddelweddaeth ei hun yn fyfyriol o hyd. Mae Maria hefyd yn cael ei hyfforddi fel seicotherapydd celf ac yn archwilio'r ffyrdd gwych y gall celf weithio mewn cyd-destun therapiwtig.


 

Delwedd: Darn o'r ffilm 'Ghosts' gan Maria Tilt a James Morris.

<< Yn ôl tudalen