Y Sgrin

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Fern Thomasy Lle [...]

10 Mehefin - 13 Gorffennaf 2014

From the Watchtower


Gwelir y trawsnewidiad o drigolyn i ddysgwr/gwyliwr i gyfrannwr gweithgar yn From the Watchtower.

Gan ehangu ar ymarfer dyddiol o wylio’r môr o’i fflat llawr uchaf gan edrych ar draws bae Abertawe, caiff y ‘Tŵr arsylwi’ ei weithredu gan Thomas trwy gyfres o arsylwadau dydd o’r môr.

Dros saith wythnos, bydd diwrnodau penodol yn cael eu cysegru i’r act o arsylwi’r môr neu ‘cadw golwg’ o ffenest uchel lle arsylwir tonnau newidol, lliwiau, a ffenomenoleg diarwybod. Wedi ei setio o fewn cyd-destun ‘Ephemeral Coast’, bydd From the Watchtower yn archwilio ein perthynas gyda’r môr, dyfodol potensial y moroedd a’r prosesau o ddeall trwy arsylwi. Gan weithio gyda dyfodol dychmygol, bydd y gwaith hefyd yn cwetiynu beth mae ‘cadw golwg’ ar y môr yn ei feddwl.

Ar ddiwedd pob dydd bydd yr arsylwadau a meddyliau yn cael eu trawsnewid i ddehongliad siaradol/sonic o’r dydd bydd yn cael eu diweddaru yn Oriel Mission ac hefyd ar gael arlein From the Watchtower Radio Station.

Bydd cyhoeddiad bach ar gael ar ddiwedd yr arddangosfa.

Comisiwn i Ephemeral Coast, curadur gan Celina Jeffrey yw hwn.

Am | Fern Thomas

Wedi’u gwreiddio ym mhrosesau a moesau Cerflunwaith Cymdeithasol, mae gwaith Fern Thomas yn archwilio grym a medrau trawsnewidol o’r ddelwedd yn ei syniad lledaenach ac yn holi ei phethynas gyda’r byd ecolegol, archeolegol a mytholegol. Yn amlwg mewn gweithred – yn fyw neu wedi eu dogfennu – mae ei harchwiliadau sythweledol wedi eu harwain gan broses yn aml yn cymryd ffurf rhyngweithiad ffisegol neu ‘chyfarfod’ rhyngddi hi a lle, breuddwyd, hanes neu beth dynol arall. Sylfaenydd Athrofa Imagined Futures & Unknown Lands.

<< Yn ôl tudalen