Y Sgrin
Erin RickardY Lle [...]
18 Chwefror - 09 Mawrth 2014
‘A Blue Process’
Cyflwyna Oriel Mission gasgliad newydd o waith wedi ei gynhyrchu yn ystod preswyl rhwng Oriel Mission a Choleg Gwyr. Daw’r teitl ‘A Blue Process’ o’r darn canolig, ffilm fer newydd wedi ei berfformio, ffilmio a golygu gan Erin Rickard.
Defod yw canolbwynt ei gwaith celf diweddaraf, yn archwilio defod newid byd, a’r munudau trawsnewidol o basio o un statws i’r llall. Cynniga’r munudau ar grog ddim benderfyniad; yn hytrach maent yn pryfocio ystyriaeth a phwysigrwydd y daith. Mae Symboliaeth yn wraidd i’n dymuniadau dynol ac ein hangen i ddeall bywyd, oherwydd hyn mae’n chwarae rhan bwysig o fewn ymarfer Erin.
Am | Erin Rickard
Artist gweledol o Dyfnaint yw Erin Rickard a symudodd ar draws Sianel Bryste i fyw a gweithio yn Ne Cymru. Ynghyd a’i hymarfer creadigol mae Erin wedi gweithio fel cyd-drefnwr, gwneuthurwr ffilm, curadur ac yn 2013 dechreuodd IlfraExpo, gyl aml-gyfrwng yn Ne Gorllewin Lloegr. Trwy gydol Mawrth 2014 bydd Erin yn Artist Preswyl yn Academïau Pentagoon yng Ngwlad Belg gan ymchwilio’r cyd-destunau o fewn ‘y lle […] | Proses Las’ ymhellach.