Y Sgrin

  • Header image

Elin HughesTrên Tarannau

20 Ionawr - 16 Mawrth 2024

Meddyliwch am ‘dân coed' am funud. Mae'n debygol y bydd yn creu amrywiaeth o atgofion synhwyraidd: pizzas â chrwst crimp, gwres ar noson oer, arogl mwg tân gwersyll, teimladau o hiraeth, cynhesrwydd a diogelwch. Am filiynau o flynyddoedd mae pobl wedi adeiladu tanau â choed ac wedi gwylio'r fflamau'n dawnsio a'r marwor yn pefrio. Tanau mewn pydew a choelcerthi yw'r dulliau hynaf o danio clai i greu serameg. Heddiw mae gennym lawer o ffyrdd o danio serameg gan gynnwys, yn fwyaf cyffredin, trydan a nwy. Fodd bynnag, yn debyg iawn i ffyrnau microdon a thrydan yn y gegin, mae'r dulliau hyn yn gyfyngedig. Yn yr un modd ag y mae grilio bwyd dros dân coed yn creu blasau hudolus ac unigryw, mae'r dechneg o danio clai â choed yn cynnig cyfleoedd rhyfeddol ar gyfer mynegiant artistig. 

Y dechneg gyfrinachol hon a’m denodd o Ddolgellau, Gogledd Cymru i diroedd gwastad canol Illinois, UDA ym mis Chwefror 2023. Dyma fi’n cymryd rhan mewn prentisiaeth 18 mis gyda’r crochenydd tân coed blaenllaw, Simon Levin,  rhaglen a wnaed yn bosibl trwy haelioni grant 'Creu' gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a Sefydliad Gogledd America Cymru. Mae’r ffilm hon yn dogfennu ein hail daniad o odyn trên Simon ym mis Mai 2023, ochr-yn-ochr â’r artistiaid Eva Funderburgh a Wu Meng-Che. Mae'r detholiad o botiau a ddaeth allan yn dechrau dal rhywfaint o gynhesrwydd y profiad cymunedol hwn a rannwyd.

 

Bywgraffiad


Graddiodd Elin Hughes gyda gradd BA (Anrh) Serameg o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2019. Ers hynny mae Elin wedi dangos ei gwaith mewn amryw o arddangosfeydd ar draws y DU gan gynnwys Ffair Gelf Collect, Oriel Gyfoes Circle a'i sioe unigol gyntaf yn Oriel Plas Glyn y Weddw 'Ar Ddaear Gofod Bach/On Earth a Little Space'. Derbyniodd Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2022, ac yn 2023 bu’n cydweithio â’r cwmni persawr moethus o Lundain, Molton Brown. Ym mis Chwefror 2023 symudodd Elin i Pawnee, Illinois, i ddechrau prentisiaeth 18 mis gyda'r crochenydd tân coed Simon Levin. 

<< Yn ôl tudalen