Y Sgrin

  • Header image

DysguOriel Mission

11 Chwefror - 24 Chwefror 2013

Yn ddiweddar mae Oriel Mission wedi ail-ddatblygu’r llawr cyntaf, mae nawr gennym lle cysegrol i addysg ac rydym am rhannu hwn gyda chi trwy weithgareddau, gweithdai a digwyddiadau. Ers Haf 2012, mae Emma Rylance, ein Swyddog Addysg a Chyfrannu, wedi trefnu amserlen artistig o weithdai creadigol i ysbrydoli bawb i gymryd rhan. Rydym ni am gadw gwneud Oriel Mission yn lle neilltuol i gelfyddydau yn Abertawe a gobeithiwn gallwch ymuno â ni mewn gweithdai arbennig i blant, teuluoedd ac oedolion.

Ysbrydoliaeth gwithdai plant Haf diwethaf oedd ardangosfa Katie Allen ’Nature Illuminated’, lle archwiliodd pob un arlunio, lliw, colaj a phatrwm yn ystod y prynhawniau heulog.

Dilynwyd hyn gan cyfres o weithdai yn ystod Hanner Tymor Hydref. Daeth plant o bob oedran at ei gilydd i greu ‘Anghenfilod Mission’ gyda Jessica Hoad, gan ddylunio a gwneud pennau anghenfil o ddefnyddiau ailgylchu a chreu straeon i ddychryn, yn ‘Mission Robots’ gyda Sean Olsen daeth teuluoedd at ei gilydd i drawsnewid teganau trydanol wedi torri i greadigaethau mecanyddol newydd a gellid greu campwaith o baentiad llawr!

Ysbrydolodd yr arddangosfa ‘House of Mirrors’, gweithdy wedi’i arwain gyda artist yr arddangosfa Rob Olins fel rhan o Ddigwyddiad Mawr Arlunio Hydref. Heriodd Olins blant ac oedolion i symud o gwmpas yr arddangosfa ac i archwilio lliw sain gan ddefnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau ac arlunio cyflym.

Yn ystod ein Gweithdau Celf Nadolig cafwyd ‘Gweithdy Nadolig Hudol’’ i oedolion, gyda Becky Adams wedi’i hysbrydoli gan y gerdd “Twas the night before Christmas”. Gyda cymorth Becky, ynghyd â haen o eira a hud, crefftiodd unigolion casgliadau aml-gyfrwng, gan ddefnyddio cyflenwad personol Becky o bapurau han-ffasiwn, ffabrigau a gwrthrychau darganfedig. Fel egwyl i siopa ar y stryd fawr cynnigodd yr Oriel gweithdy galw i fewn cardiau a tagiau Nadolig, a diwrnod galw i fewn ‘Dewch â llyfr braslunio’ i arlunio ac i’w hysbrydoli gan yr arddangosfa presennol a lle pensaernïol unigryw Oriel Mission.

Splash Arts Cymru

Prosiect wedi’i sefydlu ar gyfer disgyblion menter ‘So to Do’ Ysgol Gynradd Blaen Y Maes oedd Torri trwy Lliw. Dechreuodd y prosiect yn Oriel Mission yn ystod Gwyliau Haf, lle arweinnodd yr artist Keith Bayliss cyfres o chwech gweithdy printio a colaj. Rhoddwyd defnydd llawn o’r Oriel i’r disgyblion yn ystod sioe Nature Illuminated Katie Allen, hwn oedd pwynt dechrau eu gwaith celf unigol a grŵp. Cychwynnodd y disgyblion trwy greu darluniau wedi’u hysbrydoli gan y gwaith celf yn yr arddangosfa a datblygwyd rhain i brintiau bloc. Cafodd y rhain eu cydosod i greu colajau mawr a fydd yn cael eu harddangos yn Ysgol Gynradd Blaen Y Maes.

Bydd y prosiect yn parhau trwy gydol hanner tymor Hydref a Chwefror gydag ymweliad oriel yn ffocysu ar arlunio a lliw tra’n ymgorffori casgliad trafod Oriel Mission.

<< Yn ôl tudalen