Y Sgrin

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Dylunio Creadigol Gemau Cyfrifiadurol CreadigolMetropolitan Abertawe

10 Medi - 06 Hydref 2013

Joshua Davies, Martin McCarthy, Matthew Richards & Darren Thomas

Mae angen gwaith tîm i ddylunio gemau cyfrifiadur. O fewn stiwdios gemau mae yna dimau o bobl â sgiliau amrywiol, pob un yn broses a llwyfan angenrheidiol i weledigaeth gemau. Dengys y gwaith ddadansoddiad o’r sgiliau arbenigol yma: celf cyd-destunol, byrddau stori, dylunio cymeriadau, dylunio lefel  a chaffaeliad hyd at eu creu  yn 3D, celf gwaead ac adeiladu rigs rheoli am animeiddio. Mae’r gwaith wedi’i greu gan fyfyrwyr ar fin dechrau eu 3ydd blwyddyn yn yr Hydref.

Diwydiant tyfiol gwerth biliynau yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn yw gemau cyfrifiadur. Rhoddir y rhaglen sgiliau angenrheidiol ar gyfer y diwylliant a chyfleoedd  i greu portffolio sylweddol i arddangos eich talent i gyflogwyr posib.

Am | Dylunio Creadigol Gemau Cyfrifiadurol yn Metropolitan Abertawe

Cafodd cwrs BA(Hons) Dylunio Creadigol Gemau Cyfrifiadurol ei greu trwy ddeialog eang gydag arweinwyr diwydiant gan gynnwys Codemasters, Electronic Arts, a Stiwdios Lionhead. Mae’r cysylltiadau cryf yma gyda’r cwmniau wedi galluogi dylunio rhaglen sydd yn cynhyrchu artistiaid cymeriadau gemau cyfrifiadur ac amgylchedd talentog sydd yn barod am dueddiadau’r dyfodol yn y cyfrwng datblygol yma.

Mae graddedigwyr o’r cwrs wedi mynd i weithio yn Rockstar ar Grand Theft Auto 5, Travellers Tales ar Lego Star Wars 3, Electronic Arts ar agoriadau amrywiol, a chasgliad o gemau iPhone iOS ac Android i gwmniau annibynnol llai.

<< Yn ôl tudalen