Y Sgrin

  • Header image
  • Header image

Criw Celf y GorllewinMyfyrwyr Blaenorol

11 Medi - 25 Medi 2021

I gyd-ddigwydd ag arddangosfa Criw Celf y Gorllewin, rydym yn dathlu gwaith myfyrwyr blaenorol Codi’r Bar gan ddangos eu datblygiad ers y rhaglen.

 

Delwedd: Two Gutted Basses, Ewan Coombs

Delwedd: Suddo'n araf, Serena Williams-Dulley


 

Serena Williams-Dulley

@coeden_anferth

 

Cyn-fyfyriwr Codi’r Bar 2019-2020

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, dw i wedi bod yn astudio celf sylfaen yng Ngholeg Gŵyr. Dw i wedi cael amser gwych yn dysgu dulliau newydd ac yn datblygu fy sgiliau. Y tri darn o waith sy’n cael eu dangos yw canlyniadau fy mhrosiect FMP. Man cychwyn fy ymchwil oedd y cysyniad o gynhesu byd-eang a sut bydd y codiad yn lefelau’r môr yn effeithio ar gymunedau arfordirol a’r boblogaeth yn ei chyfanrwydd wrth i’r sefyllfa waethygu’n fyd-eang. Yna bues i’n gweithio ar drosi’r syniadau yma i symbolaeth y gallwn ei defnyddio yn fy ngwaith portreadu. Mi wnes i ddewis gweithio ar ddefnydd roeddwn i wedi’i liwio’n naturiol i greu rhyw deimlad organig o lifo’n rhwydd. Yn y pen draw mi wnes i greu dau hunanbortread a darn mawr o frodwaith. Ro’n i eisiau creu cipolwg pesimistaidd ar y dyfodol y gellir ei weld yn y ffordd y mae’r dŵr yn dechrau ennill arna i, a’r dwylo’n codi tuag at i fyny i ddianc rhag y tonnau.

 

Bu Codi’r Bar wir yn helpu i’m hysbrydoli i ddilyn celf yn ôl pan oeddwn i’n astudio ar gyfer arholiadau Safon Uwch gan iddo ledu fy ngorwelion ac agor fy llygaid i’r amrywiaeth a’r cyfleoedd oedd ar gael yn y maes. Hefyd fe’m cyflwynwyd ganddo i fyfyrwyr o’r un anian ac o’r un oed â fi gan wneud i mi deimlo’n llai ynysig wrth ddilyn y llwybr gyrfa o’m dewis. Ym mis Medi, mi fydda i’n symud i Lundain i astudio dylunio ym Mhrifysgol Gelfyddydau Llundain.

 


 

Ewan Coombs

@sid.lloyd.art

 

Cyn-fyfyriwr Codi’r Bar 2019-2020

 

Drwy amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr, fe’m galluogwyd gan Codi’r Bar i ddatblygu fy hyder fel artist gan roi i mi gyfle i weithio gyda gwahanol gyfryngau fel gwydr, tecstiliau ac enamlo metel. Dim ond cynyddu fy nghariad tuag at gelf a’m brwdfrydedd amdani a wnaeth dosbarthiadau meistr Codi’r Bar. Mi wnes i barhau â’r diddordeb ysol yma drwodd i’m hastudiaethau ar y cwrs Celf a Dylunio Sylfaen ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’m gobaith yw mynd ag e gyda fi wrth barhau â’m hastudiaethau yno gyda heriau newydd ar y cwrs Celfyddyd Gain (BA). Ar y cwrs Sylfaen, mi fues i’n ymchwilio ac yn ymateb i sawl thema, o Oroesi i Oleuni a Sain. Mae gwaith Donald Rodney, Otobong Nkanga a Zarina Hashmi wedi bod yn allweddol wrth ysbrydoli’r prosiect yma: tri artist sy’n ffurfio asgwrn cefn fy ngwaith innau. Drwy gydol y flwyddyn eleni, mi wnes i helaethu fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o ddeunyddiau celf, gan edrych ar osodweithiau cerfluniol dros dro, celf llungopïo, ffotogyfosodiad a barddoniaeth. Yn ystod yr amser helbulus yma, mae fy ngwaith wedi dod yn fwy hunanfyfyriol ac mae dogfennu eiliadau o’r fath wedi gwneud i mi deimlo’n fwy cysylltiedig â’m gwaith.

<< Yn ôl tudalen