Y Sgrin

  • Header image

Celfyddydau Anabledd Cymruy lle [...]

24 Mawrth - 28 Ebrill 2018

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) yn credu bod gan bobl Anabl a Byddar gyfraniad cyffrous a gwerthfawr i'w wneud i'r celfyddydau yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag unigolion a sefydliadau i ddathlu amrywiaeth celfyddydau a diwylliant Pobl Anabl a Phobl Fyddar, a meithrin cydraddoldeb ar draws dulliau celf o bob math. Fel asiantaeth eirioli genedlaethol, mae DAC yn darparu amrywiaeth o gefnogaeth a chyngor creadigol, hyfforddiant (Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd a Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl), a chyfleoedd datblygu proffesiynol i oddeutu 400 o aelodau sy'n gweithio ar draws Cymru.

Mae DAC yn gleient Portffolio Celfyddydol Cymru, ac yn brif sefydliad ar gyfer Anabledd a’r Celfyddydau yng Nghymru, gyda swyddfeydd rhanbarthol yng Ngogledd-orllewin, Gogledd-ddwyrain, Gorllewin a De Cymru.  Mae DAC wedi bod yn gweithredu am 35 mlynedd ac yn y cyfnod hwnnw, mae’r sefydliad wedi datblygu cyfoeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad ym maes arbenigol eirioli yn y celfyddydau; ac wedi’i gyfeirio’n benodol i gefnogi'r bobl hynny sydd ag anghenion ychwanegol oherwydd cyflwr iechyd corfforol a / neu feddyliol hirdymor. Rydym yn elusen gofrestredig ac yn sefydliad aelodaeth, sy'n darparu llais i bobl anabl a Byddar drwy Gymru ym mhob mater sy'n ymwneud â'r celfyddydau.

 

Gwaith arddangosol:

 

Gobscure - moths & rust, 2018

Leila Bebb - Shattering (An Interview), 2018

Lou Lockworrd - Spaceman with Audio Description, 2018

Paul Whittaker a Deryn Tudur - My mental illness & me, 2018

Sue Kent - Unseen Footage, 2018

Rach Wellbeing - Positive/Negative: Surviving the NHS, 2018

 

Delwedd:

Blood & Gold : Trish Bermingham

<< Yn ôl tudalen