Y Sgrin

  • Header image

AWENLucy Donald

17 Tachwedd - 01 Ionawr 2022

Awen: ysbrydoliaeth farddonol neu ddwyfol. Mae’n gytras â’r gair awel.

Mae’r ysbrydoliaeth elfennol ar gyfer yr animeiddiad hwn yn dod o farddoniaeth hynafol Taliesin. Dameg o gerdd yw’i gerdd “Kanu y Gwynt” sy’n cynnwys delweddau newid ffurf a gwedd. Dw i wedi defnyddio cymeriadau hudol o fytholeg Cymru i ysbrydoli naratif gweledol swrrealaidd, y cwbl wedi’i gydblethu gan y gwynt fel yng ngwyddiau’r felin wlân.

<< Yn ôl tudalen