Y Sgrin

  • Header image

Artistiaid Preswyl Coleg Gwỳr Gareth Southwell a Jason&Becky

02 Mehefin - 14 Mehefin 2015

Coleg Gwyr Abertawe mewn partneriaeth gydag Oriel Mission


Darluniwr yw Gareth Southwell sydd yn gweithio gan amlaf gyda pen ag inc, o fewn y maes o gyhoeddu a darlunio golygyddol. Mae wedi cynhyrchu cartwnau, cymeriadau a darluniau ar gyfer llyfrau a dyluniadau clawr, cylchgronnau a phapurau newydd, dylunio label a logo. Mae cleientiaid cynt yn cynnwys Oxford University Press, Hasbro, Palgrave Macmillan, The Philosopher’s Magazine, Penguin a W.W.Norton. Mae ganddo ddiddordeb yng nghomics ac mae’n cydweithio ar hyn  o bryd ar nofel graffig am Sigmund Freud.

www.woodpig.co.uk

 

Mae Jason Cartwright a Becky Williams (yr ail yn fyfyriwr cynt BTEC Celf a Dylunio yn y coleg)  wedi cyflawni cyfnodau preswyl llwyddiannus gyda sefydliadau fel Theatr Genedlaethol Cymru, Oriel Elysium a’r Brifysgol Metropolitan Abertawe cynt.  Maent hefyd wedi cymryd rhan mewn arddangosfeydd ar draws y DU, Ewrop a chyn belled a Chanada, UDA.

www.jasonandbecky.co.uk

 

<< Yn ôl tudalen