Y Sgrin

  • Header image

Archif Celf CymruBernard Mitchell

24 Gorffennaf - 28 Awst 2021

Mae’r arddangosfa hon o luniau portread gan Bernard Mitchell yn waith sy’n dal i fynd rhagddo. Mae prosiect Bernard i gofnodi artistiaid ac awduron yn eu cartrefi a’u stiwdios yn parhau wrth i unigolion newydd ddod i’r amlwg ym myd celfyddydau cyfoethog ac amrywiol Cymru heddiw. Dechreuodd y gwaith yn 1966 gyda’r artistiaid Ceri Richards, Alfred Janes, y bardd Vernon Watkins a’r cyfansoddwr Daniel Jones, Cyfeillion Abertawe Dylan Thomas.

Mae Bernard yn credu mai cysylltu'r mewnol i'r allanol yw’r ffordd orau i ddelwedd gyfleu hanfod unigolyn. Mae’r portreadau’n gweithio ar ddwy lefel. Mae’r sylw mae Bernard yn ei roi i’r unigolion; yr artistiaid, yr awduron a’r cerddorion, hefyd yn archwilio'r agosatrwydd a’r pellter sydd rhyngddyn nhw a’r hyn sydd o’u cwmpas. Mae pob portread yn ddarn o gelf yn ei rinwedd ei hun, ond wrth eu hystyried gyda’i gilydd mae'r delweddau yn dod yn gymaint mwy. Mae Bernard yn eu gweld fel darnau mewn jig-so sydd, yn ei gyfanrwydd, yn cyflwyno portread o fyd celf Cymru heddiw ac ers iddo ddechrau Archif Celfyddydau Cymru yn 1966.

 

 

Delwedd: David Tress, Artist yn ei stiwdio, yn Hwlffordd

<< Yn ôl tudalen