Y Sgrin

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Anthony ShaplandY Lle [...]

12 Tachwedd - 05 Ionawr 2014

Gan archwilio ffiniau diflastod a’r digymeriad, mae ffilm yn cymryd rhan yn yr amseroedd a’r gwagleoedd sydd fel arfer yn anweledig. Obsesiwn parhaol ydyw, yn adeiladu ar funudau ‘real’ o fewn ffilm dogfennol a’r berthynas gyda’r broses creu ffilm – y sgriptio, golygu a natur artiffisial ffilm. Edrycha gweithiau diweddar ar rôl yr eilydd neu’r cymeriad cyflenwol a rôl cwestiynol y bywgraffiadwr.

Trwy ‘ngwaith, gyda’i gymysgedd o ddogfen a ffuglen, cyfnodau o weithgarwch i dawelwch hir, rwyf am adael lle i feddwl. Mae’r linell rhwng gwirionedd a ffuglen yn aneglur ac mae gwylio ac ail wylio ffilm wedi cynyddu fy ymwybyddiaeth o funudau golygol ffug y realiti yma. Y dadansoddiad o fanylion annisgwyl a’r damweiniau sydd yn dangos potensial naratifau tragwyddol. Rwy’n edrych am arwyddocad yn y bob dydd ac edrych i ehangu’r munudau diflanedig. Daw’r dechreuad a’r atolnodau llawn yn rhan o le mwy; y prif ddigwyddiad ar ganol llwyfan. Yn y munudau yma rydym wedi’n dal rhwng erfyn a’r diwybod. Dim ond wrth ddal drych i’n hunain a manylion ein gweithredoedd a’n rhyngweithiad gwnawn ddatblygu empathi a dealltwriaeth. Ond wedi hyn dechreuwn ddeall y gwagle rhyngom, yr ansicrwydd rhwng yr hyn rydym yn gwybod, a’r hyn ddeallwn.

Am | Anthony Shapland

Mae Anthony Shapland yn byw a gweithio yng Nghaerdydd. Arddangosir yn genedlaethol a rhyngwladol. Arddangosfeydd diweddar yn cynnwys To Pay Respect To The Generosity of The Three-Minute Punk-Rock Song, CRATE, Margate, Memory Of A Hope, Oriel Ceri Hand, Lerpwl, The painting, Supercollider, Blackpool, LISTE - The Young Art Fair, Basel, Portrait (Am ddrama) o Beth Harmon, Limoncello, Llundain DU. Ysgrifenna i saith cylchgrawn celfyddydol a sefydlodd g39 yn 1998 lle curadura nawr.

<< Yn ôl tudalen