Y Sgrin

  • Header image

Anne Stevesy lle [...]

13 Mai - 08 Mehefin 2014

“Roedd gorwel ei meddwl yn gyfyngedig i’r mynydd” myfyriodd Anne ar yr ymadrodd hwn am flwyddyn. Sibrydodd o dudalen nofel gan Doris Lessing ‘The Cleft’ ac roedd yn rhaid ei ddefnyddio. Fel Artist Preswyl ym mhartneriaeth Coleg Gŵyr ac Oriel Mission, cafodd Anne y cyfle i ddychwelyd i le ei genedigaeth, Abertawe, ac i greu rhywbeth newydd o’r hyn a oedd yn gyfarwydd unwaith. Meddyliodd am gartref fel y mynydd trosiadol cyntaf sydd yn rhaid i ni ei groesi ac roedd dychwelyd i’r cartref yma yn gyfle i archwilio’r berthynas rhwng y tirluniau ffisegol ac emosiynol.

Dewisodd Anne weithio gyda defnyddiau sydd yn eiconig i Gymru, yn enwedig gwlân, darnau o flancedi Cymreig a delweddau gwledig. Mae’r deunyddiau yma yn arwyddluniol o’r lle ond hefyd yn cynrychioli gwarchodaeth a’r angen i guddio o fewn yr amgylchedd cyfarwydd a chyffyrddus. Gan ddefnyddio crefft ei phlentyndod, mae hi wedi torri, rhwygo a datod ei defnyddiau crai cyn eu rhoi yn ôl at ei gilydd. Yn weledol mae ei gwaith yn cymryd ffurf gwrthrychau gwisgo, wedi eu creu â llaw gan ddefnyddio mapiau, cynlluniau llawr a diagramau fel patrymau ffabrig. Mae’r gwrthrychau yma i’w gwisgo, perfformio, actio ac arddangos.

Mae’r rîl delweddau yn gwau geiriau a delweddau sydd yn dogfennu ei hymdrechion i archwilio testunau o gartref, y cartref yma, fel aelod ac allanwr.

 

Am | Anne J Steves

Artist gweledol sydd yn gweithio’n benodol trwy arlunio a chyfrwng edau yw Anne J Steves. Cafwyd ei geni a chodi yng Nghymru, gwnaeth Anne Colombia Prydeinig, Canada, ei chartref yn 2000 ac ers hynny derbyniodd ei BFA o Brifysgol Emily Carr a MFA o Brifysgol Victoria. Treuliodd Anne dri mis fel Artist Preswyl i Goleg Gŵyr yng Nghymru yn ddiweddar ac fe fydd yn arddangos y gwaith a gynhyrchwyd ar y preswyl mewn amrywiaeth o fannau yn 2014.

 

annejsteves.wordpress.com

<< Yn ôl tudalen