Y Wal

  • Header image

Marian HafY Wal

15 Ionawr - 21 Mawrth 2020

Mae Marian Haf wedi graddio mewn paentio celfyddyd gain a dechreuodd wneud printiau am y tro cyntaf yn 2011. Gall gwaith Marian amrywio o ran testun, ond yn aml ceir naratif cyffredin am hiraeth, atgofion, gwrthrychau a bywyd yng nghefn gwlad gorllewin Cymru.

Mae colagraffau wedi dod yn ffefryn pendant, gan ei bod yn synhwyro ynddynt ansawdd tebyg i lun siarcol, hydeimledd a rhyddid o ran gwneud y marciau. Mae Marian hefyd yn mwynhau defnyddio techneg boglynnu dall â thorluniau pren ar y papur cyn argraffu sy’n ychwanegu ail naratif cynnil at y gwaith gan wahodd ei archwilio’n agosach.

<< Yn ôl tudalen