Cyfnodau Preswyl

  • Header image

Jessica HoadEducation Residency

21 Ionawr - 31 Mawrth 2013

Mae gan Jessica Hoad ymarfer cerfluniol amrywiol sydd yn archwilio fel rydym yn cysylltu a anghysylltu ag eraill, ein hunain a’r byd o’n hamgylch. Ffocysa ei hymarfer presennol ar ystwythder bodau dynol a fel datblygwn trwy trallod. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn prosesau trawsnewidol rhwng cyflyrau o fod a fel y datblygwn i ddod pwy ydyn ni.

Yn gynt, defnyddiodd gwrthrychau bob dydd i greu darnau sefydledig ar raddfa mawr sydd yn aml yn cynnwys elfen byw neu cyfrannol. Mewn un darn,’Vent’, cyfnewidir cylchred parhaol o aer rhwng gwrthrych cerfluniol a chynulleidfa. Llenwir balwn rwber gydag aer wedi’i sugno o gwagle’r oriel trwy fent diwydiannol yn y wâl. Wrth i’r balwn enfawr chwyddo rhaid i’r gwyliwr negodi y gwagle o’i hamgylch. Yn raddol dadchwytha’r balwn gan ollwng yr aer allan o’r fent ac mae’r gylchred yn parhau. Profa’r ailadroddiad o wagau ac ail-lenwi gryfder y defnydd fel y symudir i’r cyfan.

Rhwng Ionawr a Mawrth 2013, mae Jessica wedi gweithio’n uniongyrchol ag arddangosfa ‘Arddull Japaneaidd: Dylunio Cynhaliol’ Oriel Mission. Mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, creodd cyfres o Weithdai Addysgiadol i grwpiau ysgol Cynradd yn Abertawe ynghyd a darparu digwyddiadau cyfrannol. Mae Jessica wedi ei selio ynGloucester Place, gyda Oriel Mission ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn actio fel hwb i’r holl weithgareddau addysgiadol. Yn ystod ei preswyl, cyfeiria Jessica yn uniongyrchol i faterion safle, gwagle a pensaernïaeth ar hyd y ddau lleoliad.

Artist seiliedig yn Abertawe yw Jessica Hoad. Cyflawnodd ei gradd yng Nghelf Gain ym Mhrifysgol Oxford Brookes yn 2009 ac mae hi nawr yn astudio’r cwrs MA Deialogau Cyfoes yn Metropolitan Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

 

Further information: http://jessicahoad.blogspot.com

 

 

 

 

<< Yn ôl tudalen