Cyfnodau Preswyl

  • Header image
  • Header image

Gwobr Jane Phillips: Proffil GraddedigionMission Oddi ar Safle @ Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

03 Gorffennaf - 26 Gorffennaf 2015

Cafodd y wobr Jane Phillips ei greu yn 2011 er cof am Jane Phillips (1957 – 2011) cyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission. Mae’r wobr yn gymynrodd i angerdd Jane am feithrin talent, yn cefnogi’n gyson artistiaid ifanc, ymddangosedig dros gelfyddyd Gweledol a Chymhwysol yng Nghymru a phellach.

Mae’r wobr yn llwyddiannus ac yn datblygu, gan ymateb i’r gymuned artistig a ffurfio partneriaethau newydd. Rydym am ddatblygu a lledaenu’r wobr wrth gyflwyno dwy wobr newydd, ynhyd â rhaglen blwyddyn o Breswyli, gan gynnwys partneriaeth ryngwladol, a fydd yn bodoli wrth ochr y brif wobr.

 

Byddwn yn cefnogi, ar sail blynyddol, myfyrwyr dethol Celf a Dylunio UWTSD, Abertawe a Chaerfyrddin gyda Gwobr Myfyriwr. Bydd hwn ar ffurf arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ynghyd â Chyfnod Preswyl ar wahân i Fyfyriwr yn Stiwdio newydd Elysium ar y Stryd Fawr yn Abertawe. Bydd y rhain yn bodoli wrth ochr ac yn cefnogi, prif wobr Jane Phillips.

 

Yn dilyn taith o amgylch y sioeau gradd, mae’n bleser cyflwyno yr artistiaid dethol a wahoddwyd i gymryd rhan yn y Proffil Graddedigion:                                                                                           

Stine Aas Nundal

Rhiannon Ames

Thomas Deacon

Ciara Long

Catrin Jones

Rose Seymour

Caryl Mair Davies

 

I lawrlwytho pdf Proffil Graddedigion 2015 Gwobr Jane Phillips cliciwch yma

<< Yn ôl tudalen