Cyfnodau Preswyl

  • Header image

Gwneuthurwr mewn Ffocws @ Oriel WrecsamKatie Darlington

26 Hydref - 22 Tachwedd 2015

Nod Gwneuthurwr mewn Ffocws yw cyflwyno arbenigedd o fewn celf gymhwysol a chrefft, gan arddangos gwaith gan wneuthurwyr newydd a sefydledig. Wedi ei selio ar y ‘Gwneuthurwr mewn Ffocws’ yn Oriel Mission, Abertawe, mae Oriel Wrecsam wedi partneri gydag Oriel Mission i gyflwyno’r llwybr arddangos yma i Ogledd Cymru.

Gwneuthurwr mewn Ffocws @ Oriel Wrecsam: Katie Darlington

Dyluniwr ffasiwn a phrint gwobrwyol yw Katie Darlington a’r person tu ôl i’r label dillad moethus i fenywod

KA T I E . D A R L I N G T O N . L D N. 

“Nid yw ond am adeiladu brand, mae am ddatblygu lle creadigol lle mae dylunwyr, arlunwyr, artistiaid a thechnegwyr creadigol gallu datblygu gwrthrychau moethus  ac arloesol. Busnes cynhwysol, datblygol lle mae pobl creadigol yn blodeuo a datblygu, gwthio ffiniau a troi y lle gweithio traddodiadol ar ei ben.”

Wedi’i geni a magu ar yr arfordir Cymreig symudodd Katie i Lundain a graddio o Brifysgol Kingston yn 2013. Gwelwyd torri patrwm a dylunio print clyfar yn ei chasgliad ‘Collecting Sentiment’, ac enillodd y Wobr Myfyriwr Ffasiwn Dylunio Wolf & Badger

<< Yn ôl tudalen