Cyfnodau Preswyl
Gwneuthurwr mewn Ffocws @ Oriel WrecsamDuncan Ayscough
11 Gorffennaf - 04 Medi 2015
Nod Gwneuthurwr mewn Ffocws yw cyflwyno arbenigedd o fewn celf gymhwysol a chrefft, gan arddangos gwaith gan wneuthurwyr newydd a sefydledig. Wedi ei selio ar y ‘Gwneuthurwr mewn Ffocws’ yn Oriel Mission, Abertawe, mae Oriel Wrecsam wedi partneri gydag Oriel Mission i gyflwyno’r llwybr arddangos yma i Ogledd Cymru.
Gwneuthurwr mewn Ffocws @ Oriel Wrecsam: Duncan Ayscough
Mae Duncan Ayscough yn dyheu i’w waith ymgorffori’r naratif o’i wneud; i gyfathrebu gwerth eu defnydd a’r broses o wneud. Yr ymadroddi hylifol yma rhwng proses, cysyniad a defnydd, sydd wrth wraidd ei ymarfer.
Mae gan Ayscough ddiddordeb mewn symud oddi wrth cyfyngiadau’r llestr tuag at archwiliad ffurf pur er mwyn ehangu naratifau deinamig gwrthrychau a grwpiau o wrthrychau.
Gwerthoedd Ffurfiedig cerfluniol sydd yn tanlinellu ei ymarfer creadigol, perthynas y mewnol i’r allanol a’r ffiniau sydd yn eu gwahanu. Mae’r gwerthoedd yma hefyd yn cynrychioli tiriogaeth mae’n mynnu ei ehangu, yn enwedig gyda’r defnydd o liw, gan greu cyferbyniad rhwng tonau mud serameg a defnydd o liw bloc llachar.
Gwneuthurwr mewn Ffocws @ Oriel Wrecsam: I ddod: Shellie Holden
Am fwy o wybodaeth ymwelwch ag Oriel Wrecsam