Cyfnodau Preswyl
Cyfnod Preswyl Digidol: Ysgol Gelf CaerfyrddinGwobr Jane Phillips
01 Mehefin - 30 Mehefin 2022
Mae’n bleser gan Oriel Mission gyhoeddi cyfnod preswyl ar gyfer Myfyriwr Preswyl Celf a Dylunio Ysgol Gelf Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr. Rydym yn ymfalchïo gweithio gydag Ysgol Gelf Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr ac yn edrych ymlaen at bwysleisio ansawdd y gwaith a gynhyrchir gan fyfyrwyr ym mhob disgyblaeth.
Mae’r cyfnod preswyl yma yn darparu gwagle ar-lein ar wefan Gwobr Jane Phillips i arddangos a datblygu gwaith, syniadau ac ymchwil, gan gynnig cymorth a hysbysiad trwy ein rhwydweithiau.
Artist dethol: Saskia Fletcher
Dyddiadau’r cyfnod preswyl: 01 - 30 Mehefin 2022
Am Gwobr Jane Phillips
Cafodd y wobr ei greu yn 2011 er cof am Jane Phillips (1957 – 2011), cyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission. Mae’r wobr yn gymynrodd i angerdd Jane am feithrin talent, yn gweithio gydag unigolion ar bob lefel - gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ag artistiaid ar ddechrau eu taith. Cyfleoedd sydd wedi eu cryfhau trwy gydweithrediad agos gyda thîm Oriel Mission, Coleg Celf Abertawe, PCYDDS ag oriel elysium.
Dan arweiniad Amanda Roderick, cyfarwyddwr cynt Oriel Mission, daeth y wobr yn un rhyngwladol a gyda chymorth pellach y cyfarwyddwyr dilynol Matthew Otten a Ceri Jones, a bwrdd brwdfrydig, mae’r wobr yn datblygu a newid.
Am fwy o wybodaeth am Gwobr Jane Phillips, ewch i www.janephillipsaward.co.uk