Cyfnodau Preswyl

  • Header image

Anne Stevesmewn partneriaeth ag Ngholeg Gŵyr

07 Ionawr - 31 Mawrth 2014

Partneriaeth rhwng Coleg Gwŷr Abertawe ac Oriel Mission yw’r preswyl cyffrous yma. Gyda un preswyl yn dechrau yn Medi 2013 a’r llall yn Ionawr 2014, mae hwn yn gyfle arbennig i artistiaid newydd, o unrhyw ddisgybliaeth, i weithio gydag adnoddau ac arbennigedd y ddau sefydliad. Bydd gofyn i’r unigolion llwyddiannus datblygu eu hymarfer eu hun; arwain gweithdai yng Ngholeg Gwŷr Abertawe; cymryd rhan mewn digwyddiad stiwdio agored; gan ddiweddu gyda sgwrs artist a proffeil terfynnol yn Oriel Mission.

Bydd yr artistiaid dewisedig yn bennaf seiliedig yng Ngholeg Gwŷr Abertawe, Campws Llwyn Y Bryn am dri mis. Bydd y preswyl yn cynnwys Ffi artist o £1500, cyllideb deunyddiau, cymorth technegol, marchnata, mentora, arweiniad a chymorth ym mhob agwedd o ymarfer proffesiynol. Bydd hwn yn cynnwys proffeil o fewn Oriel Mission yn Mai 2014. Mae pob artist ymddangosedig sydd yn dangos gallu creadigol amlwg, ynghyd a peth profiad yn addysg celf yn gymwys i ymgeisio.

 

Artistiaid Dewisedig:

Erin Rickard | 16 Medi  - 18 Rhagfyr 2013

Anne Steves | 7 Ionawr - 31 Mawrth 2014

 

Delweddau gan Anne Steves

 

Datganiad Artist Anne Steves


Artist gweledol sydd ar hyn o bryd yn byw yn Columbia Prydeinig, Canada wyf fi. Cefais fy ngeni a codi yn Abertawe ac es i i Goleg Gorseinon cyn symud. Chwaraeodd y symudiad hwn ran allweddol yn nechreuad fy niddordeb yng nghelf gyfoes yn fawr. Derbynniais BFA o Brifysgol Emily Carr yn Vancouver a fy MFA o Brifysgol Fictoria.


Fel artist gweledol, mae fy ymarfer stiwdio yn llywio tuag at arlunio a sylfaen ffibr sydd yn archwilio’r perthnasau gwahanol sydd gan bob rhyw i le. Dewisaf ddefnyddio sgiliau crefft lled cofiadwy o fy mhlentyndod yng Nghymru i berfformio’r archwiliad yma. Gan ddefnyddio dogfennau gweledol ac ysgrifenedig, cof, ymchwil a’r act corfforol o wneud, darganfyddaf croestyniad yn fel caiff lle ei bortreadu a’i brofi, yn enwedig trwy’r corff benywaidd.

Mae naratifau lluosog lle i’w gweld yn ei hanesion lleisiol, ei adeiladau, ei wisgoedd, ei gelf ac wrth gwrs ei lenyddiaeth. Mae llenyddiaeth a ffurfiau ysgrifenedig eraill yn ddylanwadau cryf ar fy ngwaith a fy ymatebion o lle. Tynnaf ar gwrthsafiad y benywaidd gan Helen Cixous, y cymryd a gadael fynd yn nhrafodaethau ffigyrau llinynol Donna Haraway, ac efallai y cread a’r dinistr yn Frankestein Mary Shelley. Dechreua fy ngwaith gyda brawddeg llenyddol sydd yn agor lle i ymholiad ac rwy’n gadael i’r ymadrodd ysgrifenedig lithro a llifo trwy’r broses gweithiol.

Yn weledol mae fy ngwaith yn cymryd ffurf crefft llaw, gwrthrychau tebyg i wisg wedi eu creu gan ddefnyddio  mapiau, planiau llawr a deiagramau fel patrymau defnydd. Caiff y gwrthrychau yma eu gwisgo, perfformio, actio a’u harddangos. Defnyddiaf nhw i weithredu’r delweddau arluniais yn fy ymchwil i le a’i hanes benywaidd. Mae’r gwrthrychau yma mynd gyda arluniau a printiau sydd yn dogfennu’r rhyngweithiad rhwng corff, gwisg a lle.

Rwy’n edrych ymlaen i ragolwg y preswyl yma oherwydd bydd yn caniatau cysylltiad gyda hanes fy hun o le. Cefais fy ngeni a codi yn Abertawe ac hoffwn gymryd y cyfle yma i gydweithio gyda’r cysyniadau o gartref a chenhedlaetholdeb. Cafodd un o fy narnau gwisg cyntaf ei ddylanwadu gan y wisg traddodiadol Cymraeg a’i hanes cymhleth fel symbol o fywyd amaethyddol, benywaidd. Mae gen i ddiddordeb penodol yn rhan y wisg yma yn niffiniad hunaniaeth cenedlaethol annibynnol, ei ffocws ar y corff benywaidd fel maes i’r cenhedlaetholdeb yma a defnydd o brint fel ffurf o ddosbarthiad.

Hoffwn ddefnyddio’r cyfle yma i ymchwilio’n bellach i’r pwnc yma. Bydd yr amseroedd ar y preswyl yma yn cael eu defnyddio i archwilio hanes y wisg cenedlaethol, gan ailadrodd y teithiau o gof i hawlio deunyddiau crai a delweddau, gan greu gwisg cenedlaethol cyfoes fy hun wedi ei selio ar fy ymchwil a chanlyniadau gan greu cyfres o arluniau a printiau i gefnogi’r gwaith. Mae wedi bod yn nod hir dymor i mi ddychwelyd gartref ar gyfer y prosiect yma a gobeithiaf gallwn weithio arno gyda’n gilydd.

Anne Steves, Awst 2013

<< Yn ôl tudalen