I Blant
Symudyn Aderyn HedegogGweithdy i Blant
18 Ebrill - 18 Ebrill 2021
Symudyn aderyn hedegog | Dydd Sul 18 Ebrill | 10:30yb-12:00yp | 9+ | Ar-lein Zoom | Am ddim
Wrth ddisgwyl Diwrnod y Ddaear 22 Ebrill, ymunwch â ni i ddathlu ein ffrindiau pluog yn y gweithdy ar-lein yma. Gyda’r artist Lucy Donald, byddwch yn gwneud ac yn addurno symudyn aderyn hedegog lliwgar ac egsotig. Mae’r symudyn yn cael ei lwytho â darnau arian i greu ffwlcrwm sy’n peri i’r aderyn guro’i adenydd.
Eventbrite: Symudyn Aderyn Hededog
Y deunyddiau y bydd eu hangen arnoch chi:
-Pren hongian cotiau gyda bachau ar y sgwyddau – gallwch hefyd ddefnyddio ffon hir i gysylltu’r llinynnau iddi.
-2 dalen A4 300gm o bapur dyfrlliw neu gerdyn (gallwch hefyd ailgylchu hen focs mawr i hancesi papur/cydynnau te)
-Llinyn
-Selotep
-Tâp dwy ochr (neu selotep arferol wedi’i ddolennu drosodd)
-paent, dyfrlliw neu acrylig neu bapurau gludwaith lliw a Pritt Stick
-Siswrn
-4 darn arian (ceiniogau neu ddwy geiniog neu wasieri neu 8 magned fach) i lwytho’r
adenydd a’r corff
Gwnewch yn siŵr fod y deunyddiau uchod gynnoch chi’n barod cyn y gweithdy.
Nifer y lleoedd yn gyfyngedig, rhaid archebu lle ymlaen llaw.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, megan@missiongallery.co.uk