I Blant
Stiwdio Sadwrn
13 Mai - 13 Mai 2023
Stiwdio Sadwrn
Ymunwch â ni yn Oriel Mission am gyfres o bedair sesiwn stiwdio agored yn ystod y
tymor, sydd wedi’u hanelu at bobl ifanc rhwng 12 ac 16 oed. Byddwn yn darparu
deunyddiau ar gyfer arbrofi a mannau gwaith ar gyfer eich prosiectau. Bydd gennych
chi amser a lle i weithio ar waith creadigol newydd, neu i ddechrau ar waith creadigol
newydd, gyda chyngor, adborth a chefnogaeth gan dîm Oriel Mission.
Mae’r sesiynau am ddim ac yn cael eu cynnal rhwng 11am ac 1pm ar y dyddiadau
canlynol:
Dydd Sadwrn 13 Mai
Dydd Sadwrn 20 Mai
Dydd Sadwrn 10 Mehefin
Dydd Sadwrn 17 Mehefin
Sesiynau galw heibio, dim angen archebu lle.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.