I Blant
Sesiwn Dawel - Gweithdy Cerflunio Creaduriaid i Blant
02 Mehefin - 02 Mehefin 2023
2yp - 3yp
7+ oed
Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer unrhyw un sydd ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu. Maent yn cynnwys fersiwn personol a hyblyg o weithdy’r bore, yn ogystal â llai o olau a sain yn yr oriel. Mae’r grwpiau’n llai a gofynnir i rieni fynychu a mwynhau’r sesiynau llai prysur hyn. Dim ond tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu y mae angen i chi ei archebu.
Ymunwch â ni yn Oriel Mission yn ystod gwyliau’r hanner tymor i gerflunio creadur clai eich hun yn seiliedig ar waith anhygoel Non yr artist. Byddwn yn edrych ar ei gwaith celf yn ein harddangosfa i gael ysbrydoliaeth ar gyfer creu ein cymeriadau a’n bydoedd dychmygol ein hunain.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.