I Blant
Sesiwn Dawel - Gweithdy Addurno Pwmpenni i Blant
30 Hydref - 30 Hydref 2022
Am ddim
7+ oed
2 - 3
Eventbrite: Gweithdy Addurno Pwmpenni i Blant
Ymunwch â ni yn Oriel Mission ar gyfer gweithdy addurno pwmpenni. Byddwn yn defnyddio ysbrydoliaeth dymhorol i greu ein dyluniadau ac i addurno ein pwmpenni. Byddwn yn cyflenwi’r pwmpenni, a bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu. Byddwn hefyd yn siarad am wastraff bwyd a sut gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar eich pwmpen dros ben gyda ryseitiau ac awgrymiadau.
Mae’r holl arian a godir yn ein gweithdai yn cael ei ddefnyddio i gefnogi artistiaid ac i barhau â’n rhaglenni ymgysylltu ac allgymorth.
Bydd angen i chi fod ar gael yn ystod y sesiwn, rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi i gasglu eich plentyn
Rydyn ni’n gofyn i chi neu eich plentyn aros gartref os ydych chi’n teimlo’n sâl. Rhowch wybod i ni na fydd eich plentyn yn dod i’r sesiwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Mae deunyddiau yn brin a rhaid i chi archebu’ch lle. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa. Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel. Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth. Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.