I Blant

  • Header image

Sesiwn Dawel: Dalwyr canhwyllau bach i’r Nadolig

11 Rhagfyr - 11 Rhagfyr 2021

Dalwyr canhwyllau bach i’r Nadolig

Dydd Sadwrn 11eg Rhagfyr

11yb-12:30yp

Am ddim

7-11 oed


Eventbrite: Dalwyr canhwyllau bach i’r Nadolig


Ymunwch â ni i wneud dalwyr canhwyllau bach i’r Ŵyl!

Erbyn hyn rydyn ni’n cynnig Sesiynau Tawel ar gyfer ein gweithdai plant.

Bwriedir y gweithgareddau hyn i fod yn addas i unrhyw gyfranogwyr sydd ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu. Dyma fersiwn hyblyg sydd wedi’i phersonoli o weithdy’r bore, gyda llai o olau a sŵn yn yr oriel. Mae’r grwpiau’n llai ac mae yna groeso i rieni aros a mwynhau’r sesiynau yma lle nad oes cymaint o bobl.

 

Gan ddefnyddio clai sy’n sychu yn yr awyr, byddwch yn dysgu technegau fel crochenwaith pinsiad a dulliau troelli i greu’ch dalwyr canhwyllau bach. Gallwch addurno’ch cynllun gyda lliwiau, marciau, llwch llewyrch neu ei adael yn blaen!


Yn ogystal â chael mynd â’ch creadigaethau adre â chi, byddwn yn dangos detholiad yn ein gofod arddangos i’n sesiwn dweud stori Yaldā – fel rhan o’n rhaglen Gyda'n gilydd.

<< Yn ôl tudalen