I Blant

  • Header image

Sesiwn Dawel- Paentiad a collage cyfryngau cymysg

17 Chwefror - 17 Chwefror 2024

Dydd Sadwrn 17 Chwefror 2024

2pm-3pm | 7+ | Croeso i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod

 Sesiwn Dawel- Paentiad a collage cyfryngau cymysg.

 Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer unrhyw un sydd ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu. Maent yn cynnwys fersiwn personol a hyblyg o weithdy’r bore, yn ogystal â llai o olau a sain yn yr oriel. Mae’r grwpiau’n llai a gofynnir i rieni fynychu a mwynhau’r sesiynau llai prysur hyn. Dim ond tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu y mae angen i chi ei archebu.

 

Dewch i ymuno â ni ar gyfer gweithdy paentio llachar a lliwgar wedi’i ysbrydoli gan ein harddangosfa ‘100 mlynedd o Glenys Cour’. Gan ddechrau gyda chynfas, cewch ymgolli yn y broses a chael blas ar fyd gwead a lliw, gan liwio neu lunio collage yn raddol nes bod gennych chi ddarlun sy’n deilwng o le mewn oriel i fynd ag ef adref gyda chi i’w arddangos ac i bawb ei fwynhau.

Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau.

 Eventbrite: Sesiwn Dawel- Paentiad a collage cyfryngau cymysg 

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen