I Blant

  • Header image

Llyfrau braslunio Synhwyraidd a Gwneud Sticeri

20 Ionawr - 20 Ionawr 2024

Fore Sadwrn 20 Ionawr 2024

11am-12:30pm | 7+ | Croeso i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod

Llyfrau braslunio Synhwyraidd a Gwneud Sticeri

 

Ymunwch â ni am sesiwn wych o greu eich llyfr braslunio synhwyraidd eich hun. Gan ddefnyddio papurau lliwgar a deunyddiau cyffrous byddwch yn gallu llunio eich llyfr braslunio eich hun. Dyma ddechrau perffaith i Flwyddyn Newydd a chael lle i gofnodi eich holl anturiaethau newydd. Byddwn hefyd yn dangos i chi ffyrdd hawdd o wneud eich sticeri eich hun â llaw gan ddefnyddio cylchgronau a lluniau.

Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau.

 

Eventbrite:Llyfrau braslunio Synhwyraidd a Gwneud Sticeri

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

 

<< Yn ôl tudalen