I Blant

  • Header image

Gweithdy gwneud collage a stampiau

18 Chwefror - 18 Chwefror 2023

11yb - 12.30yh
Age 7+

Cost - Cyfraniad

Cliciwch isod i bwcio:

Eventbrite: Gweithdy gwneud collage a stampiau

 

Ymunwch â ni yn Oriel Mission yn ystod hanner tymor mis Chwefror am weithdy sy’n canolbwyntio ar liwiau, collage a phatrymau. Byddwch yn defnyddio detholiad o ddeunyddiau i greu collage bywiog a dylunio eich stamp eich hun i’w argraffu ar eich darn o waith.

 

Mae’r holl arian a godir yn ein gweithdai yn cael ei ddefnyddio i gefnogi artistiaid ac i barhau â’n rhaglenni ymgysylltu ac allgymorth.

Bydd angen i chi fod ar gael yn ystod y sesiwn, rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi i gasglu eich plentyn

Rydyn ni’n gofyn i chi neu eich plentyn aros gartref os ydych chi’n teimlo’n sâl. Rhowch wybod i ni na fydd eich plentyn yn dod i’r sesiwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Mae deunyddiau yn brin a rhaid i chi archebu’ch lle. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa. Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel. Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth. Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen