I Blant
Gweithdy Cerflunio Meddal i Blant
29 Gorffennaf - 29 Gorffennaf 2023
11 yb - 12.30 yb
7+ oed
Ymunwch â ni yn Oriel Mission am weithdy cerflunio yn ystod yr haf. Byddwch yn arbrofi gydag amrywiaeth o ddeunyddiau, gan gynnwys ffabrigau wedi’u hadfer, i greu eich cerflun eich hun wedi’i ysbrydoli gan ein harddangosfa bresennol ‘Gall hwn fod yn freuddwyd’.
Bydd hwn yn sesiwn hamddenol a hwyliog yng ngofod addysg yr oriel lle bydd plant yn cael eu hannog i fynegi eu creadigrwydd ac arbrofi gyda deunyddiau.
Byddwn ni’n darparu’r holl ddeunyddiau.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.