I Blant

  • Header image

Gweithdy Cerflunio Dwyieithog ar gyfer y Teulu

27 Mai - 27 Mai 2023

I deuluoedd â phlant 6-12 oed

11yb - 12yh

Cost - Cyfraniad 

Cliciwch isod i bwcio:

 

Eventbrite: Gweithdy

 

 

Ymunwch â’r artistiaid Tomos Sparnon ac Owain Sparnon mewn gweithdy ar gerflunwaith cerfwedd. Byddwch yn edrych ar waith artistiaid fel Donatello am ysbrydoliaeth ac yn creu eich cerflun cerfwedd eich hunan allan o glai. Bydd y gweithdy’n cael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg.


Mae’r holl arian a godir yn ein gweithdai yn cael ei ddefnyddio i gefnogi artistiaid ac i barhau â’n rhaglenni ymgysylltu ac allgymorth.

Bydd angen i chi fod ar gael yn ystod y sesiwn, rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi i gasglu eich plentyn

Rydyn ni’n gofyn i chi neu eich plentyn aros gartref os ydych chi’n teimlo’n sâl. Rhowch wybod i ni na fydd eich plentyn yn dod i’r sesiwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Mae deunyddiau yn brin a rhaid i chi archebu’ch lle. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa. Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel. Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth. Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.


<< Yn ôl tudalen