I Blant

  • Header image

Gweithdy Cerflunio Dwyieithog ar gyfer y TeuluOwain Sparnon & Tomos Sparnon

11 Chwefror - 11 Chwefror 2023

I deuluoedd â phlant 6-12 oed

11yb - 12yh

Cost - Cyfraniad

Cliciwch isod i bwcio:

Eventbrite: Gweithdy Cerflunio Dwyieithog ar gyfer y Teulu

 

Ymunwch â ni yn Oriel Mission am weithdy dwyieithog hamddenol a chyfeillgar ar gyfer y teulu, sy’n cael ei gyflwyno yn Gymraeg ac yn Saesneg. Byddwch yn gweithio gyda chlai teracota i gynhyrchu eich cerfluniau eich hun i fynd adref gyda chi. Bydd yr artistiaid Tomos Sparnon ac Owain Sparnon yn eich tywys drwy’r sesiwn gydag enghreifftiau o gerfluniau sy’n seiliedig ar y pen drwy gydol hanes celf.

Rydyn ni’n croesawu’n benodol teuluoedd lle mae plant yn siarad Cymraeg yn yr ysgol ond nid gartref. 

 

Mae’r holl arian a godir yn ein gweithdai yn cael ei ddefnyddio i gefnogi artistiaid ac i barhau â’n rhaglenni ymgysylltu ac allgymorth.

Bydd angen i chi fod ar gael yn ystod y sesiwn, rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi i gasglu eich plentyn

Rydyn ni’n gofyn i chi neu eich plentyn aros gartref os ydych chi’n teimlo’n sâl. Rhowch wybod i ni na fydd eich plentyn yn dod i’r sesiwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Mae deunyddiau yn brin a rhaid i chi archebu’ch lle. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa. Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel. Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth. Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen