I Blant

  • Header image

Gweithdy Cerflunio Creaduriaid i Blant

02 Mehefin - 02 Mehefin 2023

 

11 yb - 12.30 yb

7+ oed

 

Eventbrite: Gweithdy Cerflunio Creaduriaid

 

 

Ymunwch â ni yn Oriel Mission yn ystod gwyliau’r hanner tymor i gerflunio creadur clai eich hun yn seiliedig ar waith anhygoel Non yr artist.

Byddwn yn edrych ar ei gwaith celf yn ein harddangosfa i gael ysbrydoliaeth ar gyfer creu ein cymeriadau a’n bydoedd dychmygol ein hunain.  

 

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen