I Blant
Gweithdy Arlunio Mynegiannol Gŵyl y Pasg i Blant
15 Ebrill - 15 Ebrill 2023
11 yb - 12.30 yb
7+ oed
Graddfa symudol costau £1, £2, £3
Eventbrite: Arlunio Mynegiannol
Defnyddiwch eich dychymyg a’ch creadigrwydd yn ystod Gwyliau’r Pasg yn Oriel Mission. Ymunwch â ni mewn gweithdy arlunio mynegiannol wedi’i ysbrydoli gan waith Stephen West a’i arddangosfa gyfredol ‘Finding Sea Level’. Arbrofwch â ffyrdd o wneud eich marciau eich hun i greu awyrgylch a symudiad mewn amgylchedd hwyliog a hamddenol. Archwiliwch y siâp a’r gwead i greu eich lluniau mawr eich hun.
Hoffem i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl a gofynnwn i chi dalu beth allwch chi. Ystyriwch gyfrannu mwy i gefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.