Y Gwneuthurwr

  • Header image

Rosie BrownY Gwneuthurwr

25 Mehefin - 30 Gorffennaf 2022

Ganed Rosemary (Rosie) Brown yng nghefn gwlad Norfolk ym 1997. Ei magwraeth yn y wlad a sbardunodd gariad Rosie at natur ac anifeiliaid. Mae hi’n dal i gael ei chyfareddu gan harddwch a chytgord natur sy’n deillio o’r frwydr i oroesi.

Cwblhaodd Rosie ddiploma anrhydedd tri dimensiwn ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion ac ers hynny mae wedi rhedeg ei stiwdio gelf ei hun yn llwyddiannus yn Stockport, gan ddatblygu ac ehangu ei dawn greadigol ym meysydd cerfluniaeth a darlunio. Yn fwy diweddar, mae Rosie wedi ehangu ei chariad at natur drwy ysgrifennu cyfres o lyfrau plant yn y gobaith y bydd y rheini sy’n eu darllen yn tyfu i fyny’n cwestiynu’r byd.

<< Yn ôl tudalen