I Oedolion

  • Header image

Tiwtora Celf I Oedolion @ Oriel Mission

23 Chwefror - 06 Ebrill 2022

**GWERTHU ALLAN**

Bydd y tiwtora yma’n ymdrin yn benodol â phaentio ac arlunio. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu technegau yn y disgyblaethau hyn yn ogystal â derbyn cefnogaeth gan artistiaid gweithredol.

Bydd yr artist Euros Rowlands yn cynnal y gweithdai yma. Mae Euros wedi ei selio yn Abertawe, ac mae'n gweithio o'i stiwdio yn Elysium.  Mae'n gweithio mewn cyfuniad o baent a colaj digidol yn bennaf, ac mae hefyd yn dysgu celf yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Mae Euros yn rhugl yn y Gymraeg, felly os hoffech chi sesiynau cael eu cynnal yn ddwyieithog, gadewch ni wybod.

@eurosrowlands

https://www.eurosrowlands.com


Bydd y cwrs ar ôl yr ysgol ar nos Fercher dros 4 sesiwn, rhwng 6 ac 8yh

Nos Fercher, 23 Chwefror
Nos Fercher, 9 Mawrth
Nos Fercher, 23 Mawrth
Nos Fercher, 06 Ebrill

Codir ffi o £40 am y cwrs. Fodd bynnag, mae gynnon ni fwrsari bach ar gael.

Cyfyngir nifer y lleoedd i 10 o fyfyrwyr yn unig ar sail y cyntaf i’r felin. Paratoir rhestr aros rhag ofn y daw lle ar gael.

Cymerir y tâl ar adeg y sesiwn gyntaf. Drwy gofrestru ar y ffurflen hon, rydyn ni’n disgwyl i chi anrhydeddu’ch ymrwymiad i fynychu’r cwrs.

Adult workshop form: Tiwtora Celf

<< Yn ôl tudalen