I Oedolion
Paentio Sidan Sara Holden
21 Awst - 21 Awst 2021
Gweithdy i oedolion
Dydd Sadwrn 21 Awst
11yb-3yp
£30
I unrhyw un sy’n dwlu ar liw, ymunwch â ni am weithdy ymlaciol sy’n edrych ar y ffurf gyfareddol yma ar gelfyddyd! Mae paentio sidan yn defnyddio llawer o brosesau mewn amryw o ffyrdd a bydd y sesiwn yma’n rhoi’r sgiliau i chi i arbrofi a darganfod mwy am weithio yn y cyfrwng yma. Byddwch yn dysgu’r technegau gwlyb-ar-sych/gwlyb-ar-wlyb ynghyd â halen a gutta i’w defnyddio ar sidan ac am liwiau enfys arbennig.
Gan ddysgu sut i gymysgu lliwiau, byddwch yn creu dyluniadau (naill ai ffigurol, haniaethol neu geometrig) ar gyfer eich paentiadau sidan hardd ac unigryw eich hun.
Dylai cyfranogwyr ddod â detholiad o’u ffotograffau, arluniau neu frasluniau eu hunain i’w defnyddio fel ysbrydoliaeth a syniadau ar gyfer eu paentiadau sidan. Darperir yr holl ddeunyddiau eraill.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bostio megan@missiongallery.co.uk
Darperir deunyddiau. Lleoedd cyfyngedig, rhaid archebu ymlaen llaw. Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion hygyrchedd, alergeddau neu gyflyrau meddygol.