I Oedolion

  • Header image

O Sbwriel i Drysor - Gweithdy PlastigBronwen Gwillim

09 Mawrth - 09 Mawrth 2024

Dydd Sadwrn, 9 Mawrth 2024

11am-3pm | Gweithdy i oedolion | £50

O Sbwriel i Drysor - Gweithdy Plastig gyda Bronwen Gwillim

Darperir lluniaeth

Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda'r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn

 

Os ydych chi’n hoff iawn o liwiau, gemwaith a’r amgylchedd, ac yn mwynhau gwneud pethau gwahanol, dyma’r gweithdy perffaith i chi! Yn y gweithdy hwn, bydd Bronwen yn rhannu ei gwybodaeth i'ch helpu i adnabod gwahanol fathau o blastig, ac yn eich addysgu fel y gallwch greu darnau trawiadol o emwaith a/neu weithiau celf bach eich hun. Dewch â darnau diddorol o blastig gwastraff o’r traeth neu o’ch cartref gyda chi, er mwyn eu trawsnewid yn rhywbeth gwerthfawr dros ben.

Bu Bronwen yn astudio gofannu arian a gwaith metel yn Ysgol Gelf Camberwell, ac mae wedi dysgu ei hun sut i weithio gyda gwydr gwastraff. Er hynny, mae’n debyg mai pan oedd yn astudio gradd meistr mewn tecstilau y gwnaeth hi ddechrau defnyddio plastigau gwastraff am y tro cyntaf, pan fu’n dysgu am eu nodweddion gwahanol a sut i’w hadnabod a’u defnyddio’n ddiogel. Ar yr adeg hon hefyd, daeth y difrod y mae plastigau untro yn ei wneud yn ein cefnforoedd yn gwbl glir. Erbyn heddiw, mae hi’n creu gemwaith beiddgar sydd wedi ennill gwobrau, gan ddefnyddio darnau o blastig mae hi’n eu casglu ar rai o’r traethau ger ei chartref yn Ne Sir Benfro. Mae’n arddangos y gemwaith hwn mewn orielau ledled y Deyrnas Unedig, ac yn cynnal gweithdai er mwyn rhannu ei gwybodaeth ac i annog pobl i fod yn greadigol gyda gwastraff.

 

Eventbrite: Plasticsmithing with Bronwen Gwillim 

 

Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen